Pembrokeshire Marine Code
skip navigation  
English
 
Hafan
Amdanom Ni
Ynglny Sir Benfro
Codau Ymddygiad
Aelodau / Ymaelodi
Grwp Rheoli
Arianwyr
Newyddion
Cyhoeddiadau
Cysylltau
 
Bywyd Gwyllt
 
Adborth
Cofnodir hyn rydych    wedii weld
Cysylltu ni
 
 

 

Amdanom Ni

Beth yw’r Cod Morol?

Gallwch fwynhau amrywiaeth eang o weithgareddau Morol yn yr awyr agored ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro ac mae'r cod yma’n dangos sut i fanteisio i’r eithaf ar y chwaraeon yma heb niweidio amgylchedd pwysig yr ardal.
Gweithredwyr lleol a sefydliadau eraill sy'n cydweithio'n agos ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a ddatblygodd y Grwp Cod Morol.
Mae’r holl sefydliadau yma’n pryderu am reolaeth tymor hir yr ardal ac maen nhw am ddatblygu arfer a safonau uchel. Maen nhw’n cydnabod bod yn rhaid i ddefnydd cynaladwy fod yn thema allweddol mewn gweithgareddau hamdden ac addysg forol.
Mae’r rhan fwyaf o’r Parc Cenedlaethol ac Arfordir Sir Benfro dan berchnogaeth breifat, ac mae’r Cod Morol yn annog grwpiau i barchu'r amgylchedd a’r bywyd gwyllt, trigolion lleol a defnyddwyr eraill, a rhoi ystyriaeth iddyn nhw, yn ogystal ag ymddwyn fel dinasyddion da yn y rhannau hynny o’r parc y maen nhw’n ymweld â nhw.
Mae’r grwp Cod Morol yn cynrychioli ymrwymiad pob aelod i arfer da. Mae pawb sy’n ymrwymo i’r Cod Morol yn cytuno i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth briodol o ran diogelwch.


Disgrifiad o’r prosiect

Nod y prosiect yw datblygu gweithgareddau hamdden Morol yn Sir Benfro a hynny mewn dull cynaladwy. Cyflawnir hyn trwy:

- Hyfforddiant – meistri llongau, criwiau, grwpiau defnyddwyr a chlybiau

- Cynnal a datblygu partneriaethau Cod Morol – pwyllgor llywio, canolfannau/darparwyr ID newydd, monitro gweithgareddau a datblygu cronfa ddata o ddarparwyr a defnyddwyr rheolaidd

- Rhoi cyhoeddusrwydd i’r Cod Morol a’i farchnata – diweddaru a datblygu taflenni, y wefan, deunyddiau cyflwyno ac arddangos, erthyglau mewn cylchgronau ac ati

- Prosiectau ymarferol – datblygu Codau Ymddygiad a rhannu ardaloedd sensitif iawn yn barthau, a rhoi hyn oll ar waith
Bydd y gweithgareddau yma’n golygu y bydd meistri llongau, clybiau a defnyddwyr arfordir Sir Benfro yn fwy ymwybodol o'r amgylchedd. Yn sgîl y prosiectau ymarferol bydd yn bosibl cynnal a gwella amgylchedd arfordirol o ansawdd i ymwelwyr a thrigolion lleol fel ei gilydd.

Nodau

- Annog trefnwyr Teithiau Bywyd Gwyllt, a pherchnogion cychod teithiau plymio siartredig, clybiau a grwpiau sy'n defnyddio'r dwr ar gyfer gweithgareddau hamdden i ddefnyddio amgylchedd Sir Benfro mewn modd cynaladwy

- Gwella’r addysg amgylcheddol a ddarperir ar y safle i’r rhai sy’n ymgymryd â gweithgareddau awyr agored

- Hybu Sir Benfro trwy dynnu sylw at ei bywyd gwyllt a’i llystyfiant o ansawdd, a’i golygfeydd (sydd wedi eu dynodi mewn Cyd-destun Ewropeaidd ac sy’n wyddonol bwysig yn genedlaethol ac yn rhyngwladol)

Amcanion

- Cysylltu â holl ddefnyddwyr cyfleusterau Morol Sir Benfro

- Hybu codau ymddygiad gwirfoddol ar gyfer gwahanol rywogaethau gan ystyried y pethau sensitif gwahanol mewn ardaloedd penodol

- Annog cyfathrebu rhwng asiantaethau cadwraeth cefn gwlad, perchnogion tir a’r rheiny sy’n ymgymryd â gweithgareddau morol, yn enwedig y rheiny sy'n darparu’r gweithgareddau

- Datblygu cysylltiadau, taflenni a gwefan i roi'r neges ar led i grwpiau gweithgareddau sy’n ymweld â Sir Benfro, trefnwyr gweithgareddau ac unigolion sy'n defnyddio'r sir at ddibenion hamdden

- Datblygu ymwybyddiaeth o’r amgylchedd trwy addysg a darparu enghreifftiau a fydd yn arwain at drin safleoedd gweithgareddau yn ofalus, fel petai’r rhai sy’n cymryd rhan yn y gweithgareddau’n berchnogion ar y safleoedd hynny

Targedau

- Sicrhau bod holl aelodau'r Grwp Cod Morol yn ymwneud â hyn

- Sefydlu ffyrdd cyffrous, diddorol a pharhaol o gyfathrebu â grwpiau perthnasol ynglyn â materion amgylcheddol

- Gwella addysg amgylcheddol mewn canolfannau a thrwy staff – sefydlu hyn fel cynsail i ddechrau pob sesiwn – hyfforddiant, cyfrifoldebau, perchenogaeth, - cysylltu â Wardeniaid Awdurdod y Parc Cenedlaethol a darparwyr gweithgareddau sy'n cynnig sesiynau briffio cyn dechrau'r tymor

- Rhoi’r neges ar led i ddefnyddwyr eraill ynglyn â safonau uchel y grwp, a chynyddu aelodaeth yn sgîl hynny

- Dod o hyd i nawdd i sicrhau parhad y prosiect ac i wneud safon Cod Morol Sir Benfro yn safon y dylid ceisio ei chyrraedd yn genedlaethol


Gwybodaeth am y sefyllfa sydd ohoni -

Ar ddechrau’r prosiect yn 2003 roedd 33 sefydliad yn aelodau o’r grwp (gan gynnwys 14 o Berchnogion Cychod Teithiau Bywyd Gwyllt a 5 cwmni teithiau plymio siartredig). Bydden nhw’n mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd ac yn llwyr gefnogi nodau’r grwp Cod Morol. Cafodd nifer o weithgareddau allweddol eu nodi fel ffyrdd o hyrwyddo’r bartneriaeth gan alluogi datblygu rheolaeth gynaladwy ar arfordir Sir Benfro, a darparu model i ardaloedd eraill y DU ei efelychu. Yn sgîl y newid o ran pwyslais twristiaeth yn y DU, a'r cynnydd yn y galw am weithgareddau hamdden Morol (gweithredwyr newydd bob blwyddyn a gweithredwyr sydd eisoes yn gweithredu yn ychwanegu at eu fflyd) mae'n hanfodol bod mecanweithiau ar waith ar yr adeg dyngedfennol yma i sicrhau ein bod yn diogelu’r arfordir ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Yn ystod 2003 creodd aelodau’r grwp Godau Ymddygiad sy'n benodol i rywogaethau a rhannwyd ardaloedd yn barthau, gan roi’r codau yma ar brawf. Bwriedir cynnal cynllun arbrofol parhaus ar gyfer tymor 2004 a bwriedir lansio’r prosiect cyfan yng ngwanwyn 2005.

Perthnasedd y prosiect
Cynnydd Cymdeithasol = mae'r prosiect yn cynnwys sbectrwm eang o grwpiau oed a diddordebau yn Sir Benfro a thu allan iddi, yn enwedig grwpiau ysgolion, grwpiau ethnig ac oedolion.

Diogelu’r Amgylchedd
Nod y prosiect yma yw cynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd rheoli arfordir Sir Benfro yn gynaladwy. Darperir hyfforddiant mewnol ac allanol i aelodau, ar bynciau penodol gan gynnwys bioamrywiaeth a diogelu cynefinoedd

NEGES ALLWEDDOL – cynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd yr amgylchedd naturiol ac annog pobl eraill i’w ddiogelu. Ein nod yw sicrhau bod cyn lleied o aflonyddu ar yr amgylchedd â phosib ac annog defnyddwyr i sicrhau bod safle mewn gwell cyflwr pan fyddan nhw’n gadael na’i gyflwr pan wnaethan nhw gyrraedd (lle bo hynny'n bosibl)

Twf economaidd
Ein nod yw creu profiad o ansawdd i bawb, er mwyn eu hannog i ymweld â'r sir eto, ynghyd â phrofiadau a fydd, yn eu tro, yn denu ymwelwyr newydd
Symbylu YMWYBYDDIAETH – trwy rwydweithio, hyfforddi a marchnata'r grwp Cod Morol, bydd y prosiect yn datblygu ymwybyddiaeth defnyddwyr o bwysigrwydd yr amgylchedd

Symbylu YMWYBYDDIAETH – trwy rwydweithio, hyfforddi a marchnata'r grwp Cod Morol, bydd y prosiect yn datblygu ymwybyddiaeth defnyddwyr o bwysigrwydd yr amgylchedd
   
Pembrokeshire Marine Code

© 2004 Pembrokeshire Marine Code.

Enquiries: Pembrokeshire Marine Code, c/o Milford Haven Port Authority, Gorsewood Drive, Milford Haven, Pembrokeshire SA73 3ER

Email: vicky.swales@mhpa.co.uk Telephone: 01646696134

website by evolvement