Mae’r
Ynys Byr, ynys ddymunol sy’n enwog am ei Abaty Sistersaidd,
yn hawdd ei chyrraedd. Dim ond rhyw ugain munud mae’n ei
gymryd ar gwch o Ddinbych-y-pysgod. Dyma’r ynys fwyaf coediog
o holl ynysoedd Penfro. Mae ei man pentrefol cysgodol yn rhoi
awyrgylch agos a chynnes ac mae yna ddigon yno ar gyfer ymwelwyr
dydd.
Roedd yna bobl yn byw yn ogofau carreg galch
yr Ynys Byr o Hen Oes y Cerrig hyd at y cyfnod Rhufeinig. Darganfuwyd
esgyrn ych enfawr ac arth yr ogof yno, yn ogystal a cheiniogau
Rhufeinig. Sefydlodd St Pyro gell meudwy ar yr ynys yn ystod
y 6ed ganrif, a dyfodd wedyn yn gymuned fynachaidd. Yn y Gymraeg,
rydyn ni’n cyfeirio at yr ynys fel yr Ynys Byr( ynys Pyro)
ond y Llychlynwyr a roddodd yr enw Caldey arni.
Wedi’r goncwest Normanaidd, Sefydlodd
mynachod Benedictaidd briordy ar yr ynys. Newidiodd yr Ynys
Byr ddwylo droeon wedi’r Diwygiad, ond yn 1906 daeth unwaith
eto yn gartref i’r Benedictiaid, a adeiladodd y Mynachlog
presennol sydd yn arddull Môr y Canoldir. Yn 1928, gwerthwyd
yr ynys i orchymyn Sistersaidd ac mae’n gweithredu fel
cymuned fynachaidd hyd heddiw.
Mae llwybr rhesog o goed yn rhedeg tu ôl
i dywod euraidd Traeth y Priordy a’r twyni sy’n
arwain at y pentref ac mae’r bythynod teras yn ffurfio
canolbwynt lôn y pentref, ond dominyddir yr olygfa gan
yr Abaty trawiadol gyda’i furiau gwyngalchog a tho melyngoch,
a leolir uwchlaw gardd gerrig serth.
I fyny’r rhyw o’r pentref, mae’r
heol yn pasio drwy goetir, lle mae yna welyau berw dwr nad ydynt
yn cael eu defnyddio. Mae hwn yn le da i weld adar y coetir,
glöynnod byw, brithion y coed, a rhedyn prin yn yr hen
furiau. Mae’r hen briordy hyfryd yn un o Eglwysi hynaf
Cymru. Uwchlaw’r fferm mae’r goleudy, a chanddo
olygfeydd gwych o Fae Caerfyrddin. Mae llwybrau eraill yn arwain
drwy’r goedwig a’r prysgoed at y twyni neu’r
pentiroedd carreg galch.
Mae daeareg yr Ynys Byr yn cynnwys hen dywodfeini
coch ar un ochr i’r ynys a charreg galch Carbonifferaidd
ar yr ochr arall. Mae gan yr ynys felly bridd asid ac alcalinaidd,
sy’n cynhyrchu rhesi ysblennydd o flodau’r haf.
Mae llygod mawr a draenogod yn bridio yma, felly nid oes yma
adar sy’n nythu ar y ddaear. Fodd bynnag, gall yr Ynys
Byr ymfalchïo yn y ffaith fod ganddi’r nythfa fwyaf
o Wylanod y Penwaig ym Mhenfro.
Ynys St Margaret
Mae Ynys St Margaret yn cydffinio â’r
Ynys Byr. Safai Gapel Canoloesol o’r enw yma ar yr ynys
unwaith ond cafodd ei drawsnewid yn ystod Oes Fictoria i lety
ar gyfer y dynion a fyddai’n chwareli carreg galch yr
ynys. Mae yna bobl yn byw ar yr ynhys erbyn hyn ac mae’n
Warchodfa Natur bwysig er mai bychain ydyw.
Mae gan yr ynys heidiau o Wylogod a Gweilch
y Penwaig sy’n nythu ar glogwyni, hyd at 250 pâr
o Filfrain a chymysgedd dda o’r tri gwylain mawr: y Cefnddu
mawr a’r Cefnddu llai a Gwylanod y Penwaig. Dros nifer
o flynyddoedd mae Gwylanwyddau wedi bod yn cylchynu ac yn creu
tiriogaethau ar ochr ogledd ddwyrain yr ynys, a allai dyfu’n
nythfa Gwylanwyddau ar gyfer y dyfodol.
Mae yna ychydig barau o Adar y Pâl yn
lluosogi ar y llethrau sy’n wynebu Dinbych-y-pysgod, ond
mae’r llygod mawr yn lleihau niferoedd yr adar bach sy’n
nythu ar y ddaear. Mae tyfiant yr ynys yn gyfoethog o fetys
gwylltion, amrawen y môr a marchwelltoedd tal.
Cloddiwyd ar yr ynys hyd 1851. Mae yna gweddillion
y bythynod, cae â chlawdd, siediau storio a ffynnon lle
mae dwr melys yn llifo o hyd. O ganlyniad i stormydd yn ystod
gaeaf 2001/02, mae un chwarel bron a rhannu’r ynys yn
ddwy.
Dim mynediad i’r cyhoedd.
© Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir
Penfro 2002
Bob dydd, mae yna nifer o weithredwyr yn cynnal
teithiau Bywyd Gwyllt a theithiau Plymio yn yr ardal, gan adael
o amryw o fannau.
I gael mwy o wybodaeth ynglyn â lle
i fynd a beth i’w weld, piciwch i mewn i
www.pembrokeshirecoast.org.uk