Mae amrywiaeth enfawr o adar,
anifeiliaid a phlanhigion morol yn rhannu arfordir Sir Benfro
â ni. Oherwydd bod rhai o’r rhywogaethau yma mor brin
ac mor bwysig, mae deddfwriaeth yn bodoli i’w diogelu ac
i sicrhau eu cadwraeth a chadwraeth yr amgylcheddau maen nhw’n
byw ynddyn nhw. Mae’r gyfraith yn diogelu pob anifail morfilaidd
(dolffiniaid, llamidyddion a morfilod), heulforgwn, crwbanod ac
adar gwyllt rhag cael eu cymryd, eu lladd neu eu niweidio yn fwriadol.
Mae’r gyfraith hefyd yn diogelu anifeiliaid eraill, gan
gynnwys morloi, a phlanhigion. Mae aflonyddu anifeiliaid morfilaidd,
adar gwyllt, morloi, heulforgwn a chrwbanod yn ddi-hid hefyd yn
drosedd.
Trwy ddilyn y cod, byddwch yn sicrhau bod bywyd
gwyllt Sir Benfro wedi’u diogelu a byddwch hefyd yn lleihau’r
perygl o droseddu.
- Lle bo hynny’n bosibl gwnewch yn siwr eich bod o leiaf
100m i ffwrdd o fywyd gwyllt morol a safleoedd bridio/nythu
a pheidiwch ag aros yno am gyfnod hwy na 15 munud
- Peidiwch â mynd at fywyd gwyllt morol yn y môr;
gadewch iddyn nhw ddod atoch chi. Os byddan nhw’n dewis
gwneud hynny, peidiwch â newid eich hynt na chyflymu.
Pan fyddwch yn agos at famaliaid morol cadwch ar 'gyflymder
mordwyo diogel’.
- Osgowch dyrru yn agos ar fywyd gwyllt. Sicrhewch nad oes mwy
na thri chwch o fewn 100m ar unrhyw un adeg. Os bydd angen,
symudwch i ffwrdd.
- Ceisiwch osgoi clogwyni, gylïau a baeau caeedig lle bo
hynny’n bosibl. Byddwch yn ymwybodol o’r hyn sydd
o’ch cwmpas. Bydd llawer o rywogaethau bywyd gwyllt yn
defnyddio’r ardaloedd yma i fridio, ac mae’n hawdd
eu haflonyddu trwy eu cornelu.
- Ceisiwch osgoi symud yn ansicr a newid eich cyflymder.
- Peidiwch â gwneud unrhyw swn diangen.
- Peidiwch â chyffwrdd â bywyd gwyllt morol, eu
bwydo na nofio gyda nhw.
- Peidiwch â symud unrhyw fywyd gwyllt o’r ardal.
- Dilynwch ganllawiau ‘arfer da’ priodol ar gyfer
y gweithgaredd neu’r cwch a chadwch eich llygaid yn agored
bob amser.
Hyd yn oed os nad ydych yn bwriadu gwylio bywyd gwyllt yn uniongyrchol,
mae’n bosibl y bydd unrhyw weithgaredd rydym yn ei wneud
yn yr amgylchedd morol yn achosi aflonyddwch. Mae potensial cychod
pweredig a chychod dwr personol i aflonyddu yn amlwg o ystyried
eu swn a hawster eu trin. Fodd bynnag, mae’r un mor debygol
y bydd cychod eraill hefyd yn achosi aflonyddwch. Efallai na fydd
bywyd gwyllt morol mor ymwybodol bod cychod hwylio tawel a chanws
yn bresennol hyd nes eu bod yn weddol agos, a gall hyn eu brawychu.
Gall hwyl sy’n chwifio, yn enwedig yn agos at y lan, greu
fflach o liw a swn uchel wrth i’r hwyl lenwi.
Mwynhewch yr amgylchedd, ond parchwch y bywyd
gwyllt sydd ynddo. Os byddwch yn defnyddio gweithredwyr lleol
sy’n gyfarwydd â’r ardal i fynd ar deithiau
plymio ac ar alldeithiau bywyd gwyllt, dylai hyn wneud eich profiad
yn fwy gwerth chweil.
|