Mae
Dale yn rhoi ei enw i’r penrhyn sy’n cysgodi’r
fynedfa i Aberdaugleddau. Yn Mill Bay, ychydig y tu mewn i fynedfa’r
harbwr, y glaniodd Harri Tudur ym 1485 ar ei ffordd i ennill coron
Lloegr ym Mrwydr Bosworth. Bu goleudy ar Benrhyn y Santes Ann
ers 1713 a cheir llwybrau cerdded ysblennydd ar glogwyni o amgylch
y pentir.
Mae pentref Dale mewn man deniadol ar yr aber.
Ceir traeth tywod a graean bras a nifer o dai teg ar hyd wal
yr hen gei. Roedd unwaith yn bentref prysur oherwydd masnach
y môr a physgota, a bellach mae’n ganolfan boblogaidd
i chwaraeon dwr, ag angorau i gychod hwylio a chyfleusterau
ar gyfer hwylio byrddau a lansio cychod pleser. Mae’n
bosibl y bydd tagfeydd yn yr haf, ond mae digon o le i barcio
yn agos at y traeth.
Bob dydd, mae yna nifer o weithredwyr yn cynnal
teithiau Bywyd Gwyllt a theithiau Plymio yn yr ardal, gan adael
o amryw o fannau.
Ymysg y gweithredwyr mae:
Dale Sea Safari - Y rhai sydd wedi eu hangori
yn Dale neu Neyland
Mae gan yr holl weithredwyr yma feistri llongau
a chriwiau wedi’u hachredu gan gynllun WiSe (Wildlife
Safe) ac maen nhw’n aelodau gweithredol o grwp Cod Morol
Sir Benfro. Fel y cyfryw, byddan nhw'n cydymffurfio â’r
codau ymddygiad a ddatblygwyd i warchod bywyd gwyllt morol Sir
Benfro, a byddan nhw hefyd yn rhoi gwybod i noddwyr am unrhyw
rywogaethau byddan nhw’n eu gweld.
Mae gweithredwyr eraill hefyd ar gael yn yr
ardal.
I gael mwy o wybodaeth ynglyn â
lle i fynd a beth i’w weld, piciwch i mewn i
www.pembrokeshirecoast.org.uk