Ar
un adeg roedd harbwr prydferth Abergwaun Isaf yn gartref i 50
o gychod masnachu arfordirol. Yma y ffilmiwyd fersiwn 1971 o Under
Milk Wood Dylan Thomas. Roedd pysgota hefyd yn bwysig, a byddai
ysgadan mwg yn cael ei allforio i dde Ewrop. Mae’r harbwr
ar aber Afon Gwaun, a chychod hamdden sy’n ei ddefnyddio
bellach.
Adeiladwyd Caer Abergwaun ym 1781 i amddiffyn
yr harbwr rhag preifatiriaid oedd yn ysbeilio. Fodd bynnag,
nid oedd ar yr ochr iawn i’r dref pan laniodd byddin o
oddeutu 1,300 o Ffrancod i ymosod ger Llanwnda ym 1797. Yn ffodus
roedd gan y goresgynwyr fwy o ddiddordeb mewn anrheithio ac
yfed nag ymladd, a chyn bo hir ildio fu eu hanes i fyddin amddiffyn
a gasglwyd ar frys. Yr Arglwydd Cawdor a arweiniodd y fyddin,
ac roedd ei bencadlys yn nhafarn y Royal Oak, sydd ar Sgwâr
Abergwaun hyd heddiw. Ymhlith y pethau sy’n ein hatgoffa
o’r Goresgyniad Olaf mae cofeb i arwres leol Jemima Nicholas,
y tu allan i Eglwys y Santes Fair.
Pentref pysgota oedd Gwdig hyd ganol Oes Fictoria,
pan ddechreuodd ddatblygu yn gyrchfan glan môr, ac adeiladwyd
nifer o "filas arfordirol" yn tremio dros y bae. Ym
1899, adeiladwyd canolfan harbwr anferth yma i gwmni rheilffordd
y Great Western. Am gyfnod byr ond gogoneddus byddai’r
llongau teithio mawr a fyddai’n teithio ar draws Môr
yr Iwerydd yn taro heibio i Gwdig, a heddiw mae’r harbwr
yn derfynfa i wasanaethau fferi ceir i Iwerddon.
Mae traeth Parrog Gwdig yn ymylu’r harbwr,
sef yr ardal fwyaf o ddwr cysgodol yng ngogledd Sir Benfro.
Mae’n lle poblogaidd i chwaraeon dwr. Mae ardaloedd arfordirol
Gogledd Sir Benfro hefyd o fewn cyrraedd o’r fan yma.
Bob dydd, mae yna nifer o weithredwyr yn cynnal
teithiau Bywyd Gwyllt a theithiau Plymio yn yr ardal, gan adael
o amryw o fannau.
Ymysg y gweithredwyr mae:
Celtic Diving & Media Services - Y rhai
sydd wedi eu hangori yng Ngwdig
Mae gan yr holl weithredwyr yma feistri llongau
a chriwiau wedi’u hachredu gan gynllun WiSe (Wildlife
Safe) ac maen nhw’n aelodau gweithredol o grwp Cod Morol
Sir Benfro. Fel y cyfryw, byddan nhw'n cydymffurfio â’r
codau ymddygiad a ddatblygwyd i warchod bywyd gwyllt morol Sir
Benfro, a byddan nhw hefyd yn rhoi gwybod i noddwyr am unrhyw
rywogaethau byddan nhw’n eu gweld.
Mae gweithredwyr eraill hefyd ar gael yn yr
ardal.
I gael mwy o wybodaeth ynglyn â
lle i fynd a beth i’w weld, piciwch i mewn i
www.pembrokeshirecoast.org.uk