Pembrokeshire Marine Code
skip navigation  
English
 
Hafan
Amdanom Ni
Ynglny Sir Benfro
Codau Ymddygiad
Aelodau / Ymaelodi
Grwp Rheoli
Arianwyr
Newyddion
Cyhoeddiadau
Cysylltau
 
Bywyd Gwyllt
 
Adborth
Cofnodir hyn rydych    wedii weld
Cysylltu ni
 

 

Gwales
 
Ynys Gwales, sydd rhyw 6 milltir oddi ar arfordir Penfro yw’r man mwyaf trawiadol ar gyfer gwylanwyddod yn Ne Prydain, a’r trydydd mwyaf yn hemisffer y Gogledd.

Mae’r enw Saesneg ar yr ynys, sef ‘Grassholm’ yn golygu “ynys werdd” yn iaith y Llychlynwyr, er ei fod yn edrych yn wyn o’r pellter, wedi’i staenio gan ddom adar a’i orchuddion gan wylanwyddod yn eistedd ar eu nythod. Mae yna ryw 32,000 pâr yn bridio yno o Ebrill hyd mis Medi, gan sicrhau mae Gwales yw’r prif safle ar gyfer gwylio, aroglu a chlywed adar yn Sir Benfro. Erbyn mis Gorffennaf, mae’r ciwiau ac adar dydd ddim yn bridio ond sy’n defnyddio’r ynys i gymdeithasu a chlwydo yn dod â’r nifer o wylanwyddod i fyny i ryw 100,000.

Mae yna niferoedd bychan o ffwlmeri, gwylanod coesddu, gwalchiaid y penwaig ac ychydig o fulfrain gwyrdd yma hefyd. O ganol yr Haf ymlaen, gall fod yna hyd at 120 o forloi llwyd ar y creigiau pan fo’r llanw’n isel.

Ers 1947, bu Gwales yn eiddo i’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, a dyma’r warchodfa gyntaf i’r Gymdeithas ei phrynu erioed. Mae sawl cwmni teithiau cychod yn cludo teithwyr o gwmpas yr ynys, heb lanio.

Yn y Canol Oesoedd, defnyddiwyd Gwales er mwyn i ddefaid bori yn ystod yr Haf. Mae yna fan amgaeëdig bychan ar yr ynys, ac mae’n bosib eu bod wedi’i ddefnyddio i gasglu’r defaid er mwyn eu cneufio.

© Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2002

Bob dydd, mae yna nifer o weithredwyr yn cynnal teithiau Bywyd Gwyllt a theithiau Plymio yn yr ardal, gan adael o amryw o fannau.

I gael mwy o wybodaeth ynglyn â lle i fynd a beth i’w weld, piciwch i mewn i

www.pembrokeshirecoast.org.uk

Ymysg y gweithredwyr mae:

Dales Sea Safari – Y rhai sydd wedi eu hangori yn Dale neu Neyland
Pembrokeshire Dive Charter – Y rhai sydd wedi eu hangori yn Neyland
Shearwater Safaris – Y rhai sydd wedi eu hangori yn Neyland
St Brides Boat Company – Y rhai sydd wedi eu hangori yn Aberllydan

Mae gan yr holl weithredwyr yma feistri llongau a chriwiau wedi’u hachredu gan gynllun WiSe (Wildlife Safe) ac maen nhw’n aelodau gweithredol o grwp Cod Morol Sir Benfro. Fel y cyfryw, byddan nhw'n cydymffurfio â’r codau ymddygiad a ddatblygwyd i warchod bywyd gwyllt morol Sir Benfro, a byddan nhw hefyd yn rhoi gwybod i noddwyr am unrhyw rywogaethau byddan nhw’n eu gweld.

Mae gweithredwyr eraill hefyd ar gael yn yr ardal.

I gael mwy o wybodaeth ynglyn â lle i fynd a beth i’w weld, piciwch i mewn i
http://www.pembrokeshirecoast.org.uk/

 
<BACK

 

 

© 2004 Pembrokeshire Marine Code.

Enquiries: Pembrokeshire Marine Code, c/o Milford Haven Port Authority, Gorsewood Drive, Milford Haven, Pembrokeshire SA73 3ER

Email: vicky.swales@mhpa.co.uk Telephone: 01646696134

website by evolvement