Pembrokeshire Marine Code
skip navigation  
English
 
Hafan
Amdanom Ni
Ynglny Sir Benfro
Codau Ymddygiad
Aelodau / Ymaelodi
Grwp Rheoli
Arianwyr
Newyddion
Cyhoeddiadau
Cysylltau
 
Bywyd Gwyllt
 
Adborth
Cofnodir hyn rydych    wedii weld
Cysylltu ni
 

 

Yr Hafanau
 
Aberllydan

Mae Aberllydan yn gyrchfan boblogaidd sy’n weddol agos at Hwlffordd. Roedd Aberllydan unwaith yn bentref glofaol, a dechreuodd ddatblygu yn gyrchfan glan môr (gan gynnwys peiriannau ymdrochi) yn ystod Oes Fictoria. Mae bellach yn bentref sylweddol ei faint sy'n cynnwys amrywiaeth o siopau a bwytai a digonedd o le i barcio.

Oherwydd y traeth tywod llydan sy’n lle diogel i ymdrochi, mae’n ddelfrydol i deuluoedd ac mae hefyd yn boblogaidd ymhlith pysgotwyr môr a syrffwyr. Gorlifwyd gweithfeydd glo yn yr ardal a’u troi yn warchodfa natur fach.

Yr Aber Bach

Pentref pysgota prydferth yw’r Aber Bach wedi’i leoli mewn bae cysgodol â thraeth bach gerllaw. Fodd bynnag, ar un adeg roedd yn ganolfan i ardal fwyngloddio. Byddai glo carreg yn cael ei allforio o weithfeydd gerllaw, a byddai gweithwyr ar y traeth yn llwytho’r llongau a fyddai’n ei gludo gan ddilyn y glannau. Heddiw mae’r bae yn cynnig cysgod i gychod pleser bach ac un neu ddau o gychod cimwch, ac mae’n boblogaidd ymhlith plymwyr.

Mae’r pentref wedi’i wasgu yn y dyffryn ger blaen y gilfach, ac oherwydd bod y tair ffordd sy’n arwain ato yn serth ac yn gul, mae’n debygol y bydd tagfeydd yn ystod tymor y gwyliau. Dewis amgen poblogaidd yw parcio yn Aberllydan gerllaw a cherdded i’r Aber Bach.

Bob dydd, mae yna nifer o weithredwyr yn cynnal teithiau Bywyd Gwyllt a theithiau Plymio yn yr ardal, gan adael o amryw o fannau.


Ymysg y gweithredwyr mae:

Dive Pembrokeshire UK - Y rhai sydd wedi eu hangori yn Neyland
St Brides Bay Boat Company – Y rhai sydd wedi eu hangori yn Aberllydan

Mae gan yr holl weithredwyr yma feistri llongau a chriwiau wedi’u hachredu gan gynllun WiSe (Wildlife Safe) ac maen nhw’n aelodau gweithredol o grwp Cod Morol Sir Benfro. Fel y cyfryw, byddan nhw'n cydymffurfio â’r codau ymddygiad a ddatblygwyd i warchod bywyd gwyllt morol Sir Benfro, a byddan nhw hefyd yn rhoi gwybod i noddwyr am unrhyw rywogaethau byddan nhw’n eu gweld.

Mae gweithredwyr eraill hefyd ar gael yn yr ardal.

I gael mwy o wybodaeth ynglyn â lle i fynd a beth i’w weld, piciwch i mewn i
www.pembrokeshirecoast.org.uk

 
<BACK

 

 

© 2004 Pembrokeshire Marine Code.

Enquiries: Pembrokeshire Marine Code, c/o Milford Haven Port Authority, Gorsewood Drive, Milford Haven, Pembrokeshire SA73 3ER

Email: vicky.swales@mhpa.co.uk Telephone: 01646696134

website by evolvement