Sefydlodd
Syr William Hamilton Aberdaugleddau ym 1790, ac mae gan y dref
gysylltiadau cryf â’r Llyngesydd Nelson. Ymhlith yr
anheddwyr cynnar roedd helwyr morfilod a oedd yn Grynwyr o Ynys
Nantucket. Bydden nhw’n darparu olew i oleuo lampau Llundain.
Roedd yno wasanaeth cychod rheolaidd i Iwerddon ac iard llongau
llyngesol, ond symudwyd hon i Ddoc Penfro yn ddiweddarach.
Roedd dyfodiad y rheilffordd ym 1863 yn hwb
newydd i’r dref, ac adeiladwyd canolfan ddociau fawr.
Daeth hon yn gartref i’r fflyd bysgota fwyaf ond pump
ym Mhrydain, ac fe ffynnodd y dref. Gwnaed yn iawn am y dirywiad
yn y diwydiant pysgota yn y 1950au gan dwf y diwydiant olew,
pan adeiladwyd sawl purfa ar hyd yr Hafan.
Mae Aberdaugleddau yn borthladd ac yn dref
brysur o hyd. Ailddatblygwyd rhan o’r dociau i gynnwys
marina.
© Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2002
Bob dydd, mae yna nifer o weithredwyr yn cynnal
teithiau Bywyd Gwyllt a theithiau Plymio yn yr ardal, gan adael
o amryw o fannau.
I gael mwy o wybodaeth ynglyn â lle
i fynd a beth i’w weld, piciwch i mewn i
www.pembrokeshirecoast.org.uk