Ger
Afon Cleddau, tyfodd tref Neyland o amgylch terfynfa rheilffordd
De Cymru. Fel y cyfryw, ystyrir mai Isambard Kingdom Brunel a
sefydlodd y dref. Yn ogystal â hanes sy’n gysylltiedig
â'r rheilffyrdd, mae’r diwydiannau pysgota, adeiladu
cychod a masnach y Pacedlongau hefyd wedi gadael eu hôl
ar dref Neyland.
Mae marina â lle i 360 cwch angori bellach
yn y man lle bu cwmni rheilffordd y Great Western ar un adeg,
a dyma ganolfan i nifer o weithgareddau hamdden morol bellach.
Bob dydd, mae yna nifer o weithredwyr yn cynnal
teithiau Bywyd Gwyllt a theithiau Plymio yn yr ardal, gan adael
o amryw o fannau.
I gael mwy o wybodaeth ynglyn â lle
i fynd a beth i’w weld, piciwch i mewn i
www.pembrokeshirecoast.org.uk