Mae’r
ynys hon, sy’n wynebu Penmaendewi ar draws dyfroedd byrlymus
Sain Dewi, yn ynys drawiadol iawn o ran golgfeydd. Mae’n
siwr mai dyma safle gorau Sir Benfro ar gyfer gwylio morloi llwyd
a llamhidyddion.
Maen nhw’n credu bod yr enw Saesneg
ar yr ynys, sef ‘Ramsey’ yn dod o enw person Llychlynaidd,
sef Hrafn, ac felly mae’n golygu “Ynys Hrafn”.
Yn y Gymraeg, mae’r enw Dewi yn cyfeirio at Dewi Sant”.
Mae dau gopa Carn Ysgubor a Charn Llundain
yn rhoi amlinell nodedig iawn i Ynys Dewo. Roedd yn dir-nôd
ar gyfer pererinion morol cynnar a oedd ar eu ffordd i Dyddewi.
Ceisiodd sawl Meudwy loched yma hefyd, ac yn eu plith Sant Justinian,
ffrind a chyfesydd i Dewi Sant. Roedd yna ddau gapel Cristnogol
cynnar ar yr ynys a ffynnon sanctaidd a oedd yn enwog am ei
bwerau iachau.
Mae Ynys Dewi hefyd yn gadarnle bridio ar
gyfer y frân goesgoch, aelod prin o deulu’r frân.
Dyma’r unig safle yn Sir Benfro, hefyd, lle mae cornchwiglod
yn ceisio bridio. Caiff yd ei dyfu yn y caeau canolog er mwyn
denu adar mudol sy’n bwyta hadau yn ystod diwedd yr Haf
a’r Hydref. Mae yna glogwyn mawr o adar y môr ar
ochr orllewinol yr ynys, a gallwch weld gwylanwyddod yn plymio
am bysgod oddi ar y môr.
Mae Ynys Dewi’n gartref i’r drefedigaeth
fwyaf o forloi llwyd yn Ne Prydain. Mae’n nhw’n
fwyaf gweledol o ddiwedd Awst hyd Hydref pan ddaw’r rhai
benywaidd i’r traethau bridio i roi genedigaeth. Caiff
dros 600 o rai bach eu gwni yma bob blwyddyn. Mae’r dyfroedd
o gwmpas Ynys Dewi yn llawn o lamhidyddion porth, tra bod dolffiniaid
cyffredin, trwynbwl a llwyd yn cael eu gweld bob blwyddyn.
Ar y tir, mae yna geirw coch a gyflwynwyd
i’r ynyd pan gafodd ei ffermio, ac hefyd llygod tir.
Mae yna blanhigion prin lleol a chenedlaethol
ar Ynys Dewi. O ddechrau’r Gwanwyn mae’r clogwyni’n
llawn o flodau o bob lliw a llun ac yn Awst, y grug porffor
yw’r enghraifft orau o rostir ar ein hynsoedd sydd oddi
ar y tir.
I’r De o’r tir, mae yna dair ynys
serth: Ynys Gwelltog, Cantwr a Bery. Mae’r rhain yn safleoedd
bridio ar gyfer gwylanod cefnddu ac yn y Gwanwyn, mae’r
serennyn glas golau i’w gweld yno.
© Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir
Penfro 2002
Bob dydd, mae yna nifer o weithredwyr yn cynnal
teithiau Bywyd Gwyllt a theithiau Plymio yn yr ardal, gan adael
o amryw o fannau.
Ymysg y gweithredwyr mae:
Thousand Island Expeditions - Y rhai sydd
wedi eu hangori yn St Justinians
Voyages of Discovery - Y rhai sydd wedi eu hangori yn St Justinians
Mae gan yr holl weithredwyr yma feistri llongau
a chriwiau wedi’u hachredu gan gynllun WiSe (Wildlife
Safe) ac maen nhw’n aelodau gweithredol o grwp Cod Morol
Sir Benfro. Fel y cyfryw, byddan nhw'n cydymffurfio â’r
codau ymddygiad a ddatblygwyd i warchod bywyd gwyllt morol Sir
Benfro, a byddan nhw hefyd yn rhoi gwybod i noddwyr am unrhyw
rywogaethau byddan nhw’n eu gweld.
Mae gweithredwyr eraill hefyd ar gael yn yr
ardal.
I gael mwy o wybodaeth ynglyn â lle
i fynd a beth i’w weld, piciwch i mewn i
www.pembrokeshirecoast.org.uk