Pembrokeshire Marine Code
skip navigation  
English
 
Hafan
Amdanom Ni
Ynglny Sir Benfro
Codau Ymddygiad
Aelodau / Ymaelodi
Grwp Rheoli
Arianwyr
Newyddion
Cyhoeddiadau
Cysylltau
 
Bywyd Gwyllt
 
Adborth
Cofnodir hyn rydych    wedii weld
Cysylltu ni
 

 

Sgogwm
 
Mae’r ynys warchodfa natur brydferth hon yn adnabyddus am ei chasgliad trawiadol o adar y môr a blodau gwyllt.

Gair Llychlynaidd am “ynys goediog” yw Sgogwm, ond erbyn hyn, yr unig arwyddion o goetir yw rhywogaethau arwyddol fel llygad ebrill a chlychau’r gog. Caiff y planhigion eu tocio gan y gwynt a’u torri nôl gan wningod, ond mae planhigion nad oes posib eu bwyta fel blodau gorffennaf, lluglys y môr a’r wialen aur yn darparu môr o liw yn y Gwanwyn ac ar ddechrau’r Haf.

Daeth yr ynys yn enwog oherwydd y naturiaethwr Ronald Lockley, y gyrhaeddodd yn 1927 I gymryd lês 21 mlynedd. Lockley oedd un o’r pobl cyntaf I astudio bioleg bridio petrelau’r storm, pâl Manaw, y pâl cyffredin a chwningod. Ffurfiodd ei ymchwil ar wningod y seiliau ar gyfer nofel Richard Adams, Watership Down. Yn 1933 daeth yr ynys yn wylfa adar cyntaf Prydain.

Gall ymwelwyr aros ar Sgogwm, yn llety’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt, ond nid oes teithiau dydd.

Mae Sgogwm yn ynys ar gyfer adar y môr yn bennaf, gyda’r holl brif rywogaethau yno, heblaw am yr wylan goesddu. Mae’r pâl, yr heligog, gwalchog y penwaig, ffwlmeri, gwylanod llwyd a gwylanod penddu yn bridio yma yn yr Haf, ynghyd â’u ysglyfaethod: y gigfran, ravens, yr hebog glasa a’r boda. Mae adar y nos hefyd yn bridio yma hefyd: pâl Manaw ac un o’r trefedigaethau petreliaid y storom mwyaf pwysig yn Ne Prydain yn bridio yn y chwarel ac yn y muriau carreg. Dechreuodd Sefydliad Edward Llwyd Prifysgol Rhydychen farcio ac astudio adar yma, cyn symud I Sgogwm yn 1977 lle mae’r gwaith yma’n parhau.

Mae yna oleudy ar bentir gorllewinol agored. Caiff y golau ei bweri gan yr haul ac mae yna wawr goch iddo ar ochr y tir I helpu atal adar rhag cael u dallu a’u niweidio ar nosweithiau tywyll.

Hen Dywodfaen Coch yw daeareg yr ynys gydag arlliwiau godidog o genau gwahanol ar arwynebau’r creigiau. Mae’r ynys hon yn ynys brydferth iawn.

© Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2002

Bob dydd, mae yna nifer o weithredwyr yn cynnal teithiau Bywyd Gwyllt a theithiau Plymio yn yr ardal, gan adael o amryw o fannau.

Ymysg y gweithredwyr mae:

Dales Sea Safari – Y rhai sydd wedi eu hangori yn Dale neu Neyland
Pembrokeshire Dive Charter – Y rhai sydd wedi eu hangori yn Neyland
Shearwater Safaris – Y rhai sydd wedi eu hangori yn Neyland
St Brides Boat Company – Y rhai sydd wedi eu hangori yn Aberllydan

Mae gan yr holl weithredwyr yma feistri llongau a chriwiau wedi’u hachredu gan gynllun WiSe (Wildlife Safe) ac maen nhw’n aelodau gweithredol o grwp Cod Morol Sir Benfro. Fel y cyfryw, byddan nhw'n cydymffurfio â’r codau ymddygiad a ddatblygwyd i warchod bywyd gwyllt morol Sir Benfro, a byddan nhw hefyd yn rhoi gwybod i noddwyr am unrhyw rywogaethau byddan nhw’n eu gweld.

Mae gweithredwyr eraill hefyd ar gael yn yr ardal.

I gael mwy o wybodaeth ynglyn â lle i fynd a beth i’w weld, piciwch i mewn i
http://www.pembrokeshirecoast.org.uk/

 
<BACK

 

 

© 2004 Pembrokeshire Marine Code.

Enquiries: Pembrokeshire Marine Code, c/o Milford Haven Port Authority, Gorsewood Drive, Milford Haven, Pembrokeshire SA73 3ER

Email: vicky.swales@mhpa.co.uk Telephone: 01646696134

website by evolvement