Ynys
Sgomer yw’r mwyaf o ynysoedd Penfro. Mmae’n Warchodfa
Natur Cenedlaethol sydd o bwysigrwydd rhyngwladol oherwydd yr
adar y môr a geir yno. Mae hefyd yn le da I weld morloi,
ac yn ystod y gwanwyn a’r haf cynnar ceir rhai o arddangosfeydd
gorau o flodau gwyllt yn Nwyrain Prydain.
Mae yna dystiolaeth o fodolaeth ddynol yn
ôl yn yr Oes Efydd, ar ffurf carreg sefyll unig a adnabyddir
fel yr Haroldstone a grwp o naw carnedd claddu bychan. Mae’r
gweddillion archeolegol mwyaf pwysig yn dyddio nôl I Oes
yr Haearn (650CC- 100OC). Credir bod tua 200 o bobl yn byw yno
bryd hynny. Mae yna ôl pedwar treflan, Caer penrhyn bychan,
a rhai o’r enghraifftiau o systemau caeau Oes yr Haearn
a gadwyd mewn cyflwr da ym Mhrydain. Yn ystod y Gwanwyn, cyn
i’r planhigion dyfu, mae ffiniau’r caeau hynafol
yma i’w gweld yn ddigon eglur fel rhesi o gerrig neu gloddiau
cerrig neu bridd.
Mae gwynt a halen yn tocio planhigion yr ynys,
sy’n cael eu gwrteithio a’u sathru gan adar y môr,
a’u bwyta gan filoedd o wningod. Mae clychau’r gog
a’r blodyn taranau yn blodeuo mewn mannau cysgodol, gyda
chlustog Fair a gludys arfor yn tyfu ar gopa’r clogwyni.
Does yna ddim coed, er bod helyg, prysgoed mieri a drain duon
yn byw yn y dyffrynoedd, ac mae’r rywiogaethau’n
sy’n arwyddo coetir megis y clychau glas yn awgrymu y
bu ardaloedd coediog eang yn bodoli yma unwaith.
Mae gan Sgomer yr heidiau mwyaf a mwyaf hygyrch
o adar y môr yn Ne Prydain. Mae’r clogwyni’n
frith o adar y môr – gwylanod y graig, gweilch y
penwaig, gwylogod a gwylanod coesddu. Mae’r pâl
yn nythu mewn tyrchfeydd yng nglaswellt copa’r clogwyni,
gwylanod y penwaig a gwylanod cefnddu mawr ar y brigiadau creigiog,
a’r gwylanod cefnddu llai ar y llwyfandiroedd. Mae swn,
y gwynt a’r bfridio yn parhau gydol y nos a’r dydd.
Mae gan yr ynys dros 100,000 o barau o wylanod
Manaw, y nythfa fwyaf o’r fath rywiogaeth yn y byd, o
bosib. Byddan nhw’n bwydo allan ar y môr yn ystod
y dydd, ac maen nhw’n dychwelyd i’w tyrchfeydd liw
nos. Fe allwch chi eu adnabod gan y swn iasol a roddodd yr enw
“Ynys yr eneidiau coll” I Ynys Sgomer unwaith. Mae
aros ar yr ynys dros nos yn brofiad bythgofiadwy.
Mae adar y môr yn fwyd ar gyfer u cigfran,
y boda a’r hebog glas, sydd hefyd yn bridio ac yn bwydo
ar yr ynys. Mae sawl pâr o frân groesgoch a nifer
amrywiol o dylluanod clust-fyr hefyd yn bridio yma.
Nid oes unrhyw famaliaid ysglyfaethol fel
llwynogod neu lygod mawr yma, a dyna pham mae yma gymaint o
adar sy’n nythu ar y tir. Mae llygoden tir Sgomer yn unigryw
i’r ynys. Mae yna filoedd o lyffantod yma, ynghyd â
rhai brogaid, maddfallod palmet y dwr, madfallod a nadrodd defaid.
Gallwch weld morloi llwyd ar y creigiau trwy gydol y flwyddyn
pan fo’r llanw’n isel, yn enwedig ger Carreg y Garland.
O fis Awst hwyr hyd mis Hydref mae’r morloi benywaidd
yn dod i’r lan I gael eu rhai bach.
Mae’r dyfroedd o amgylch Sgomer, Sgogwm
a Middleholm yn rhan o Warchodfa Natur Forol Sgomer, un o dim
ond tair Gwarchodfa o’r fath yn y DU. Yma, rydych chi’n
debygol o weld llamidyddion cyffredin, yn bwydo ar y pysgod
yn y dyfroedd bywiog. Yn hwyr yn yr Haf, mae’n, bosib
y gwelwch ddolffiniaid cyffredin hefyd, yn ogystal â dolffiniaid
trwynbwl a dolffiniaid llwyd, ac hefyd pysgod yr haul, sy’n
bysgod digon rhyfedd.
© Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir
Penfro 2002
Bob dydd, mae yna nifer o weithredwyr yn cynnal
teithiau Bywyd Gwyllt a theithiau Plymio yn yr ardal, gan adael
o amryw o fannau.
Ymysg y gweithredwyr mae:
Dales Sea Safari – Y rhai sydd wedi
eu hangori yn Dale neu Neyland
Pembrokeshire Dive Charter - Y rhai sydd wedi eu hangori yn
Neyland
Shearwater Safaris – Y rhai sydd wedi eu hangori yn Neyland
St Brides Boat Company – Y rhai sydd wedi eu hangori yn
Aberllydan
Dale Sailing – Y rhai sydd wedi eu hangori yn Martins
Haven ac sy'n Glanio ar yr Ynys
Mae gan yr holl weithredwyr yma feistri llongau
a chriwiau wedi’u hachredu gan gynllun WiSe (Wildlife
Safe) ac maen nhw’n aelodau gweithredol o grwp Cod Morol
Sir Benfro. Fel y cyfryw, byddan nhw'n cydymffurfio â’r
codau ymddygiad a ddatblygwyd i warchod bywyd gwyllt morol Sir
Benfro, a byddan nhw hefyd yn rhoi gwybod i noddwyr am unrhyw
rywogaethau byddan nhw’n eu gweld.
Mae gweithredwyr eraill hefyd ar gael yn yr
ardal.
I gael mwy o wybodaeth ynglyn â lle
i fynd a beth i’w weld, piciwch i mewn i
http://www.pembrokeshirecoast.org.uk/