Pembrokeshire Marine Code
skip navigation  
English
 
Hafan
Amdanom Ni
Ynglny Sir Benfro
Codau Ymddygiad
Aelodau / Ymaelodi
Grwp Rheoli
Arianwyr
Newyddion
Cyhoeddiadau
Cysylltau
 
Bywyd Gwyllt
 
Adborth
Cofnodir hyn rydych    wedii weld
Cysylltu ni
 

 

Y Smalls
 
Set o binaclau sydd prin yn dod i’r golwg ger ynys fechan o’r un enw, 15 milltir o Dyddewi ym Môr Iwerddon. Mae enw’r ynys yn addas tu hwnt, ac ar ei phen mae goleudy i’w weld. Strwythur pren oedd hwn yn wreiddiol, ond cafodd un ergyd gan don fawr wared arno yn y 19eg ganrif. Bellach mae strwythur cadarn o wenithfaen yn ei le.

Bydd sioe ddwr yn aros i ddifyrru’r rheiny sy’n llwyddo i gyrraedd y Smalls. Mae wyneb y graig, sy’n ymestyn o’r arwyneb i lawr i 50m, yn ffurfio casgliad o geunentydd a gylïau sydd bron â bod yn endidau byw ynddyn nhw eu hunain.
Bydd ffrydiau yn golchi dros y Smalls yn gyson, gan hybu twf rhywogaethau llawn egni fel dahlias ac anemonïau sy’n gorchuddio’r graig lyfn. Yn eu plith, mae cimychiaid a chimychiaid cochion yn epilio.

Bob dydd, mae yna nifer o weithredwyr yn cynnal teithiau Bywyd Gwyllt a theithiau Plymio yn yr ardal, gan adael o amryw o fannau.

Ymysg y gweithredwyr mae:

Dale Sea Safari - Y rhai sydd wedi eu hangori yn Dale neu Neyland
Pembrokeshire Dive Charter - Y rhai sydd wedi eu hangori yn Neyland
Shearwater Safaris - Y rhai sydd wedi eu hangori yn Neyland
Dive Pembrokeshire UK - Y rhai sydd wedi eu hangori yn Neyland

Mae gan yr holl weithredwyr yma feistri llongau a chriwiau wedi’u hachredu gan gynllun WiSe (Wildlife Safe) ac maen nhw’n aelodau gweithredol o grwp Cod Morol Sir Benfro. Fel y cyfryw, byddan nhw'n cydymffurfio â’r codau ymddygiad a ddatblygwyd i warchod bywyd gwyllt morol Sir Benfro, a byddan nhw hefyd yn rhoi gwybod i noddwyr am unrhyw rywogaethau byddan nhw’n eu gweld.

Mae gweithredwyr eraill hefyd ar gael yn yr ardal.

I gael mwy o wybodaeth ynglyn â lle i fynd a beth i’w weld, piciwch i mewn i
www.pembrokeshirecoast.org.uk

 
<BACK

 

 

© 2004 Pembrokeshire Marine Code.

Enquiries: Pembrokeshire Marine Code, c/o Milford Haven Port Authority, Gorsewood Drive, Milford Haven, Pembrokeshire SA73 3ER

Email: vicky.swales@mhpa.co.uk Telephone: 01646696134

website by evolvement