Pembrokeshire Marine Code
skip navigation  
English
 
Hafan
Amdanom Ni
Ynglny Sir Benfro
Codau Ymddygiad
Aelodau / Ymaelodi
Grwp Rheoli
Arianwyr
Newyddion
Cyhoeddiadau
Cysylltau
 
Bywyd Gwyllt
 
Adborth
Cofnodir hyn rydych    wedii weld
Cysylltu ni
 

 

Tyddewi
 
Mae dinas leiaf Prydain wedi bod yn denu ymwelwyr ers dros fil o flynyddoedd. Sefydlodd Dewi, nawddsant Cymru, fynachlog yma yn y 6ed Ganrif, a daeth yn ganolfan ar gyfer Cristnogaeth gynnar.

Adeiladwyd yr eglwys gadeiriol gyntaf ar safle mynachlog wreiddiol Dewi yn fuan ar ôl concwest y Normaniaid. Cafodd hon ei hailadeiladu, ei haddurno, a’i hymestyn dros y canrifoedd, nes iddi ddatblygu yn Eglwys Gadeiriol odidog bresennol Tyddewi. Ochr yn ochr â’r eglwys gadeiriol mae adfeilion trawiadol Palas yr Esgob o'r 14eg Ganrif, a Choleg y Santes Fair sy’n dyddio o’r 13eg Ganrif, sydd wedi’i atgyweirio.

Ceir nifer o siopau crefftau, orielau, siopau gweithgareddau awyr agored, caffis a bwytai yn Nhyddewi, ynghyd â Chanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, sydd wedi ennill gwobrau. Mae'n ganolfan bwysig ar gyfer chwaraeon antur, yn enwedig syrffio a dringo. Gallwch archebu lle ar deithiau cwch i Ynys Dewi yma; byddan nhw'n gadael o St Justinians sydd gerllaw. Mae Traeth Mawr llai na 2 filltir i ffwrdd, ac mae hwn yn boblogaidd â nofwyr a syrffwyr. Hefyd, mae yna sawl bae, traeth a chilfach dlos o fewn cyrraedd hawdd.

© Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2002

Bob dydd, mae yna nifer o weithredwyr yn cynnal teithiau Bywyd Gwyllt a theithiau Plymio yn yr ardal, gan adael o amryw o fannau.

Ymysg y gweithredwyr mae:

Thousand Island Expeditions - Y rhai sydd wedi eu hangori yn St Justinians
Voyages of Discovery - Y rhai sydd wedi eu hangori yn St Justinians

Mae gan yr holl weithredwyr yma feistri llongau a chriwiau wedi’u hachredu gan gynllun WiSe (Wildlife Safe) ac maen nhw’n aelodau gweithredol o grwp Cod Morol Sir Benfro. Fel y cyfryw, byddan nhw'n cydymffurfio â’r codau ymddygiad a ddatblygwyd i warchod bywyd gwyllt morol Sir Benfro, a byddan nhw hefyd yn rhoi gwybod i noddwyr am unrhyw rywogaethau byddan nhw’n eu gweld.

Mae gweithredwyr eraill hefyd ar gael yn yr ardal.

I gael mwy o wybodaeth ynglyn â lle i fynd a beth i’w weld, piciwch i mewn i
www.pembrokeshirecoast.org.uk

 
<BACK

 

 

© 2004 Pembrokeshire Marine Code.

Enquiries: Pembrokeshire Marine Code, c/o Milford Haven Port Authority, Gorsewood Drive, Milford Haven, Pembrokeshire SA73 3ER

Email: vicky.swales@mhpa.co.uk Telephone: 01646696134

website by evolvement