Pembrokeshire Marine Code
skip navigation  
English
 
Hafan
Amdanom Ni
Ynglny Sir Benfro
Codau Ymddygiad
Aelodau / Ymaelodi
Grwp Rheoli
Arianwyr
Newyddion
Cyhoeddiadau
Cysylltau
 
Bywyd Gwyllt
 
Adborth
Cofnodir hyn rydych    wedii weld
Cysylltu ni
 

 

Dinbych-y-pysgod
 
Oherwydd ei thraethau euraidd, ei harbwr prydferth a’r llu o letyau a geir yno, mae Dinbych-y-pysgod yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid. Er gwaethaf y ffaith bod miloedd o ymwelwyr yn heidio i'r dref bob haf, mae Dinbych-y-pysgod wedi llwyddo i gadw ei swyn arbennig. Saif olion castell ar benrhyn Bryn y Castell, ac mae cryn dipyn o’r wal a godwyd i amddiffyn y dref Normanaidd yn dal i sefyll.

Mae’r harbwr islaw Bryn y Castell, a dyma fu ffynhonnell ffyniant y dref ers y Canol Oesoedd. Byddai Dinbych-y-pysgod yn masnachu llongau â Bryste a lleoedd mor bell â Sbaen a Ffrainc. Heddiw mae cychod pleser yn defnyddio’r harbwr, yn ogystal â’r cychod i Ynys Byr.

Ym 1810, dechreuodd Syr William Paxton ar raglen adeiladu â’r bwriad o droi Dinbych-y-pysgod yn gyrchfan ymdrochi ffasiynol a choeth, ac mae llawer o gymeriad a swyn y dref wedi goroesi’n dda ers y cyfnod hwnnw.

© Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2002

Bob dydd, mae yna nifer o weithredwyr yn cynnal teithiau Bywyd Gwyllt a theithiau Plymio yn yr ardal, gan adael o amryw o fannau.

I gael mwy o wybodaeth ynglyn â lle i fynd a beth i’w weld, piciwch i mewn i

www.pembrokeshirecoast.org.uk

 
<BACK

 

 

© 2004 Pembrokeshire Marine Code.

Enquiries: Pembrokeshire Marine Code, c/o Milford Haven Port Authority, Gorsewood Drive, Milford Haven, Pembrokeshire SA73 3ER

Email: vicky.swales@mhpa.co.uk Telephone: 01646696134

website by evolvement