Pecyn Cymorth Cod Morol
Datblygwyd y pecyn cymorth hwn i roi trosolwg o sut a pham y sefydlwyd Cod Morol yn Sir Benfro ac i alluogi atgynhyrchu mewn ardaloedd eraill. Mae’n seiliedig ar dros 10 mlynedd (o’r cyfnod 2002 i 2015) o ddysgu ac mae’n ymdrin â rhywogaethau bywyd gwyllt, cynulleidfa darged, hyfforddiant, addysg, cyllid a’r gwersi a ddysgwyd.
Os hoffech dderbyn copi o’r pecyn cymorth hwn, cwblhewch y ffurflen isod.
Gwersi a ddysgwyd o ddatblygu Cod Morol Sir Benfro
Nid oes amheuaeth nad yw amgylchedd forol ac arfordirol Cymru yn hollbwysig, nid yn unig o ran darparu cyflogaeth mewn cymunedau arfordirol ond hefyd ar gyfer iechyd a lles ein cenedl.
Mae ein rhesymau dros fwynhau’r arfordir yn cael eu gyrru gan ansawdd yr amgylchedd a’r bywyd gwyllt y mae’n ei gynnal. Oni bai bod hyn yn cael ei ddiogelu, rydym mewn perygl o golli’r union ecosystemau sy’n darparu ein bywoliaeth a’n mwynhad. Mae rheoli ardaloedd morol mawr gyda phwyntiau mynediad a defnyddiau lluosog yn heriol ac mae angen adnoddau sylweddol.
Oherwydd hyn, datblygwyd dull gwirfoddol o leihau aflonyddwch i fywyd gwyllt morol yn 2002, a elwir yn God Morol Sir Benfro. Roedd y Cod yn canolbwyntio ar ddatblygu arfer gorau drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid, addysg a chyfathrebu a chynhyrchodd gyfyngiadau mynediad amserol a gofodol y cytunwyd arnynt.
Datblygwyd y pecyn cymorth hwn i roi trosolwg o sut a pham y sefydlwyd Cod Morol yn Sir Benfro ac i alluogi atgynhyrchu mewn ardaloedd eraill. Mae’n seiliedig ar dros 10 mlynedd o ddysgu (o’r cyfnod 2002 i 2015) ac mae’n ymdrin â rhywogaethau bywyd gwyllt, cynulleidfa darged, hyfforddiant, addysg, cyllid a’r gwersi a ddysgwyd.
Os hoffech dderbyn copi o’r pecyn cymorth hwn, cwblhewch y ffurflen isod.
