Ap Crwydro Arfordir Cymru
Mae’n dda gwybod y gallwn ni i gyd chwarae ein rhan i ofalu am y golygfeydd godidog a’r bywyd gwyllt amrywiol ar hyd arfordir Sir Benfro drwy fod yn ymwybodol o’r Cod Morol. Newyddion cyffrous – mae Ap Cod Morol poblogaidd Sir Benfro bellach yn rhan o Ap Crwydro Arfordir Cymru. Mae’r Ap yn rhoi mynediad i fanylion o bob rhanbarth ar hyd arfordir Cymru.
Mae nodweddion yn cynnwys:
- Canllawiau arfordirol ar gyfer lleihau aflonyddwch i forloi, adar môr a morfilod
- Gwybodaeth am y planhigion a’r anifeiliaid y gallech eu gweld wrth archwilio’r arfordir
- Y gallu i adrodd am weld anifail ar gyfer cofnodion bywyd gwyllt
- Gwybodaeth am ddaeareg Sir Benfro
- Gwybodaeth am rywogaethau ymledol morol
- Darganfod safleoedd archaeoleg y môr a chofnodi eich darganfyddiadau
- Mapiau cyfyngiadau mynediad y cytunwyd arnynt ar gyfer Sir Benfro, gan ddefnyddio mapiau Google, delweddau lloeren a PDF
Mae Ap Crwydro Arfordir Cymru nawr yn fyw!
O’n tir, trwy ein haberoedd, i’n moroedd, rhowch yr arfordir yn eich poced trwy lawrlwytho Ap Crwydro Arfordir Cymru