Cod Ymddygiad ar gyfer Adar Rhydiol

Cod Ymddygiad ar gyfer Adar Rhydiol

Mae aberoedd a thraethau Sir Benfro yn cynnal amrywiaeth o adar hela ac adar rhydiol trwy gydol y flwyddyn. Mae’r adar hyn yn sensitif iawn i aflonyddwch, yn enwedig gan gŵn oddi ar dennyn ac mae angen lle arnynt i fwydo, gorffwys a bridio. Bydd y cod ymddygiad canlynol yn eich helpu i rannu’r gofod gyda’r adar hyn heb darfu arnynt.

God Ymddygiad Morol Sir Benfro ar gyfer Adar Rhydiol

Byddwch yn ymwybodol o adar yn ymweld â’n haberoedd ac ar y draethlin. Cadwch bellter da a gwyliwch am arwyddion o aflonyddwch *

*Mae’r pellter y mae bywyd gwyllt y môr yn dangos arwyddion o gynnwrf yn amrywio’n aruthrol, yn dibynnu ar y lleoliad, y math o ddull gweithredu, a yw’r anifeiliaid wedi arfer cael eu gwylio ac a oes ganddynt rai bach gyda nhw. Byddwch yn ymatebol i’w hymddygiad.

Byddwch yn ymwybodol o’r gofod cyfyngedig sydd gan adar adeg y penllanw a chadwch eich pellter.

Sicrhewch fod eich ci bob amser dan reolaeth agos.

Arwyddion o Aflonyddwch: Adar Rhydiol

Rhoi’r gorau i fwydo i edrych arnoch chi, dechrau galw, rhedeg oddi wrthych neu hedfan i ffwrdd, rydych chi’n rhy agos.

* Mae’r pellter y mae bywyd gwyllt morol yn dangos arwyddion o gynnwrf yn amrywio’n aruthrol, yn dibynnu ar y lleoliad, y math o ddull gweithredu, a yw’r anifeiliaid wedi arfer cael eu gwylio ac a oes ganddynt gywion gyda nhw. Byddwch yn ymatebol i’w hymddygiad.

Ceisiadau ymddygiad ychwanegol

Cynllunio ymlaen llaw

Cadwch lygad am fywyd gwyllt: ceisiwch osgoi ardaloedd sensitif, crynodiadau mawr o adar/morloi ac ardaloedd magu tymhorol. Gwiriwch y mapiau cyfyngiadau mynediad y cytunwyd arnynt ar gyfer ardaloedd penodol cyn i chi fynd allan ar y dŵr.

Cadw eich pellter

Gall mynd yn rhy agos achosi straen i fywyd gwyllt, gallant adael eu hwyau neu loi, cael eu gorlethu neu gael niwed.

Lleihau eich cyflymder a sain

Bydd lleihau cyflymder a chynnal cyfeiriad cyson yn lleihau aflonyddwch, yn enwedig o ran morfilod. Gall synau uchel darfu ar forloi ac adar y môr, yn enwedig yn ystod amseroedd bwrw lloi bach/plu, croen, blew ac amseroedd nythu.

Dysgu sut i edrych ar fywyd gwyllt

Trwy wybod y pellteroedd gwylio bywyd gwyllt a argymhellir, cyflymder cychod a awgrymir ac adnabod ymddygiad sy’n dangos aflonyddwch * yn lleihau’r effaith ar fywyd gwyllt morol.

Lawrlwythwch God Ymddygiad Morol Sir Benfro ar Gyfer Adar Rhydiol

Mwynhewch fywyd gwyllt yn gyfrifol, hyd yn oed all-lein – lawrlwythwch God Ymddygiad Morol Sir Benfro ar gyfer Adar Rhydiol a chadwch ef wrth law i amddiffyn y creaduriaid anhygoel hyn wrth archwilio ein harfordiroedd.

Rhifau defnyddiol

Aflonyddwch bywyd gwyllt

I adrodd am aflonyddwch nad ydyw’n un brys ar fywyd gwyllt morol neu droseddau bywyd gwyllt a amheuir, cysylltwch â:

  • Cyswllt nad ydyw’n un brys yr Heddlu: 101
  • Uned Forol yr Heddlu: 01267 226129
  • Swyddog Prosiect Cod Morol: 07989 218489

Rhoi gwybod am anifeiliaid mewn trallod

I roi gwybod am achosion o fywyd gwyllt morol sy’n sownd neu anifeiliaid mewn trallod, cysylltwch â:

  • RSCPA: 03001 234999
  • Bird Rescue: 01834 814397 / 07771 507915
  • Cyngor Sir Penfro: 01437 764551
  • Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau: 01646 690909
  • Cydlynydd Achub Bywyd Morol Cymru, Terry Leadbetter : 01646 692943 / 07970 285086
  • British Divers Marine Life Rescue: 01825 765546

Cysylltiadau allweddol

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol yn ymwneud ag amgylchedd morol Sir Benfro, cysylltwch â:

  • Warden Ynys Sgogwm: 07971 114303
  • Warden / Swyddog Ymwelwyr Ynys Skomer: 07971 114302 / 07530 796150
  • Swyddog PCM Skomer: 01646 636736
  • Rheolwr Gweithrediadau Ardal Profi Ynni’r Môr (META): 07944 839332
  • Warden Ynys Dewi ac Ynys Gwales: 07796 611951
  • Cyfoeth Naturiol Cymru De Penfro: 01646 661368
  • Warden Ynys Bŷr: 01834 844453
  • Ceidwad Dŵr Aberdaugleddau: 01646 696100
  • I roi gwybod am weld morfilod, dolffiniaid a llamhidyddion, cysylltwch â Sea Watch Foundation: 01407 832892