Codau ymddygiad

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro rai o’r golygfeydd arfordirol mwyaf trawiadol ac sydd heb eu difetha yn y DU. Mae’n ardal sy’n gyfoethog mewn bywyd gwyllt ac wedi’i dynodi’n un o bwysigrwydd rhyngwladol a chenedlaethol ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau morol. Mae’r mapiau a’r codau ymddygiad ar y wefan hon yn amlygu’r Cyfyngiadau Mynediad Cytunedig presennol sydd wedi’u llunio gan arbenigwyr cadwraeth a defnyddwyr arfordirol. Mae’r codau wedi’u cytuno i gadw a gwarchod y bywyd gwyllt morol sy’n gwneud arfordir Sir Benfro mor arbennig.

MORLOI

Cod Ymddygiad Ar Gyfer Morloi

Rydym yn ffodus iawn i rannu ein dyfroedd gyda morloi llwyd. Maent yn sensitif i aflonyddwch ac yn cael eu hamddiffyn gan y gyfraith. Maen nhw’n halio eu hunain allan i eni lloi bach ar arfordir Sir Benfro ac ynysoedd ar y môr, fel arfer o fis Awst tan ddiwedd mis Tachwedd. Er y gall fod cynulliadau o grwpiau mawr ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.

1. Peidiwch â glanio ar draethau lloi bach rhwng 1 Awst a diwedd Tachwedd a pheidiwch â tharfu ar famau sy’n magu lloi bach. Mae oedolion benywaidd yn aml yn gorffwys tua 10-30m i ffwrdd o’r lan a’u lloi bach. Osgowch ddod rhyngddynt.

2. Ceisiwch osgoi ymgripio i fyny ar forloi neu nesáu atynt drwy ymgrymu. Efallai y byddant yn eich gweld fel ysglyfaethwr.

3. Cadwch eich pellter. Byddwch yn ymwybodol ar 100m a chadwch o leiaf 50m* oddi wrth forloi, oni bai eu bod yn dod atoch. Gall morloi fod yn arbennig o sensitif i aflonyddwch ar ôl cyfnodau o dywydd stormus ac yn ystod y tymor bridio.

4. Caniatewch lwybr dianc i forloi bob amser a pheidiwch â’u bocsio i mewn.

5. Er mwyn eich diogelwch ac er mwyn iechyd y morloi eu hunain, peidiwch â cheisio nofio gyda, cyffwrdd na bwydo morloi.

6. Mae sŵn yn tarfu. Cadwch gyflymder o dan 5 môr-filltir wrth gyrraedd a gadael. Cadwch amser gwylio i 10 munud. Symudwch i ffwrdd os byddwch chi’n sylwi ar aflonyddwch. Gall symud i ffwrdd atal rhuthr estynedig mewn ardaloedd halio allan.

7. Sicrhewch fod eich ci bob amser dan reolaeth agos.

*Mae’r pellter y mae bywyd gwyllt y môr yn dangos arwyddion o gynnwrf yn amrywio’n aruthrol, yn dibynnu ar y lleoliad, y math o ddull gweithredu, a yw’r anifeiliaid wedi arfer cael eu gwylio ac a oes ganddynt rai bach gyda nhw. Byddwch yn ymatebol i’w hymddygiad.

ADAR Y MÔR

COD YMDDYGIAD AR GYFER ADAR Y MÔR
Mae mis Mawrth i fis Gorffennaf yn amser arbennig o sensitif, wrth i adar ddod i’r lan i nythu. Mae safleoedd sensitif yn cynnwys clogwyni serth a chilfachau. Mae gan arfordir Sir Benfro ac ynysoedd ar y môr boblogaethau o adar y môr o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol.

1. Cynlluniwch deithiau’n ofalus ac mewn perthynas â chyfyngiadau mynediad penodol i safle y cytunwyd arnynt. Maent yn eu lle i warchod bywyd gwyllt ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

2. Arsylwch ymatebion adar o bell. Byddwch yn ymwybodol ar 100m a chadwch o leiaf 50m* oddi wrth adar y môr.

3. Mae carfilod (gwylogod, llursod) yn deor wyau ar eu traed. Os ydyn nhw’n hedfan oddi ar silffoedd clogwyni mewn panig mae eu hwyau’n cael eu dadleoli a’u dinistrio.

4. Ar ddŵr agored efallai y byddwch yn dod ar draws llu o adar y môr. Osgowch darfu ar adar sy’n rafftio gan y gallant ailgyfogi bwyd sydd wedi’i fwriadu ar gyfer eu cywion / hedfan yn ystod amser gorffwys gwerthfawr.

*Mae’r pellter y mae bywyd gwyllt y môr yn dangos arwyddion o gynnwrf yn amrywio’n aruthrol, yn dibynnu ar y lleoliad, y math o ddull gweithredu, a yw’r anifeiliaid wedi arfer cael eu gwylio ac a oes ganddynt rai bach gyda nhw. Byddwch yn ymatebol i’w hymddygiad.

MORFILOD

COD YMDDYGIAD AR GYFER MORFILOD
Mae dolffiniaid, llamhidyddion a morfilod yn rhannu’r dyfroedd hyn gyda chi. Maent yn sensitif i aflonyddwch ac yn cael eu hamddiffyn gan y gyfraith. Gall ein gweithredoedd amharu ar eu gweithgareddau dyddiol a hyd yn oed achosi anaf. Gall y cyngor cyffredinol canlynol leihau’r straen i forfilod pan fyddwch yn dod ar eu traws ar y môr. Gall y cyngor hefyd fod o fudd i’n cyfarfyddiadau â chrwbanod, heulforgwn a physgod yr haul.

1. Wrth weld morfilod, dylai cychod arafu i <5 môr-filltir a chynnal cwrs cyson, gan osgoi symudiadau afreolus neu newidiadau mewn cyflymder.

2. Caniatewch i grwpiau o forfilod aros gyda’i gilydd ac osgowch yrru trwyddynt yn fwriadol.

3. Gadewch forfilod gyda rhai bach ar eu pen eu hunain a pheidiwch â dod rhwng mam a’i morfil bach.

4. Dylech bob amser ganiatáu llwybr dianc i forfilod, peidiwch â mynd ar ôl morfilod.

5. Byddwch yn ymwybodol ar 100m a chadwch o leiaf 50m* oddi wrth forfilod, oni bai eu bod yn dod atoch. Os byddwch yn sylwi ar unrhyw arwyddion o aflonyddwch, mae angen i chi ADAEL.

*Mae’r pellter y mae bywyd gwyllt y môr yn dangos arwyddion o gynnwrf yn amrywio’n aruthrol, yn dibynnu ar y lleoliad, y math o ddull gweithredu, a yw’r anifeiliaid wedi arfer cael eu gwylio ac a oes ganddynt rai bach gyda nhw. Byddwch yn ymatebol i’w hymddygiad.

ADAR RHYDIOL

Cod Ymddygiad Ar Gyfer Adar Rhydiol

Mae aberoedd a thraethau Sir Benfro yn cynnal amrywiaeth o adar hela ac adar rhydiol trwy gydol y flwyddyn. Mae’r adar hyn yn sensitif iawn i aflonyddwch, yn enwedig gan gŵn oddi ar dennyn ac mae angen lle arnynt i fwydo, gorffwys a bridio. Bydd y cod ymddygiad canlynol yn eich helpu i rannu’r gofod gyda’r adar hyn heb darfu arnynt.

1. Byddwch yn ymwybodol o adar yn ymweld â’n haberoedd ac ar y draethlin. Cadwch bellter da a gwyliwch am arwyddion o aflonyddwch*

2. Byddwch yn ymwybodol o’r gofod cyfyngedig sydd gan adar adeg y penllanw a chadwch eich pellter.

3. Sicrhewch fod eich ci bob amser dan reolaeth agos.

*Mae’r pellter y mae bywyd gwyllt y môr yn dangos arwyddion o gynnwrf yn amrywio’n aruthrol, yn dibynnu ar y lleoliad, y math o ddull gweithredu, a yw’r anifeiliaid wedi arfer cael eu gwylio ac a oes ganddynt rai bach gyda nhw. Byddwch yn ymatebol i’w hymddygiad.

Rhifau defnyddiol

Aflonyddwch bywyd gwyllt

I adrodd am aflonyddwch nad ydyw’n un brys ar fywyd gwyllt morol neu droseddau bywyd gwyllt a amheuir, cysylltwch â:

  • Cyswllt nad ydyw’n un brys yr Heddlu: 101
  • Uned Forol yr Heddlu: 01267 226129
  • Swyddog Prosiect Cod Morol: 07989 218489

Rhoi gwybod am anifeiliaid mewn trallod

I roi gwybod am achosion o fywyd gwyllt morol sy’n sownd neu anifeiliaid mewn trallod, cysylltwch â:

  • RSCPA: 03001 234999
  • Bird Rescue: 01834 814397 / 07771 507915
  • Cyngor Sir Penfro: 01437 764551
  • Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau: 01646 690909
  • Cydlynydd Achub Bywyd Morol Cymru, Terry Leadbetter : 01646 692943 / 07970 285086
  • British Divers Marine Life Rescue: 01825 765546

Cysylltiadau allweddol

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol yn ymwneud ag amgylchedd morol Sir Benfro, cysylltwch â:

  • Warden Ynys Sgogwm: 07971 114303
  • Warden / Swyddog Ymwelwyr Ynys Skomer: 07971 114302 / 07530 796150
  • Swyddog PCM Skomer: 01646 636736
  • Rheolwr Gweithrediadau Ardal Profi Ynni’r Môr (META): 07944 839332
  • Warden Ynys Dewi ac Ynys Gwales: 07796 611951
  • Cyfoeth Naturiol Cymru De Penfro: 01646 661368
  • Warden Ynys Bŷr: 01834 844453
  • Ceidwad Dŵr Aberdaugleddau: 01646 696100
  • I roi gwybod am weld morfilod, dolffiniaid a llamhidyddion, cysylltwch â Sea Watch Foundation: 01407 832892