Bwiau Côd Morol

Dull newydd arloesol o ddiogelu bywyd gwyllt morol yn parhau yn Sir Benfro

Mae bwiau addysgol i godi ymwybyddiaeth o God Morol Sir Benfro ac ardaloedd sy’n sensitif i fywyd gwyllt wedi cael eu defnyddio yn y dyfroedd oddi ar Ddinbych-y-pysgod eto eleni. Mae’r dull arloesol hwn yn dechrau ar ei ail flwyddyn ac mae’n unigryw yng Nghymru a’i nod yw helpu defnyddwyr chwaraeon dŵr i leihau eu haflonyddu a diogelu’r amgylchedd morol.

Mae Ynys Bŷr a’r dyfroedd cyfagos yn ardaloedd pwysig i forloi llwyd, adar y môr a bywyd y môr arall. Roedd gweithredwyr cychod teithiau bywyd gwyllt a oedd yn gweithio yn yr ardal yn dechrau pryderu am ymddygiad rhai defnyddwyr chwaraeon dŵr a oedd yn tarfu ar fywyd gwyllt trwy fynd yn rhy agos neu agosáu ar gyflymder uchel.

“Mae Ynys Bŷr a’r dyfroedd cyfagos yn ardaloedd pwysig i forloi llwyd, adar y môr a bywyd y môr arall. Roedd gweithredwyr cychod teithiau bywyd gwyllt a oedd yn gweithio yn yr ardal yn dechrau pryderu am ymddygiad rhai defnyddwyr chwaraeon dŵr a oedd yn tarfu ar fywyd gwyllt trwy fynd yn rhy agos neu agosáu ar gyflymder uchel”.

Angus Dunlop

Perchennog, Tenby Boat Trips

Adar y môr(CC Janet Baxter)

Cysylltodd y gweithredwyr cychod teithiau sydd, fel aelodau o God Morol Sir Benfro yn dilyn y canllawiau arfer gorau, â Fforwm Arfordir Sir Benfro, a’n helpodd i ddatblygu a rheoli’r Cod Morol.

Mae’r bwiau yn nodi ffiniau pedair ardal bywyd gwyllt allweddol o amgylch yr ynys ac yn dangos gwybodaeth ar sut i darfu cyn lleied â phosibl ar forloi llwyd yr Iwerydd ac adar môr sy’n nythu ar glogwyni megis y mulfrain, mulfrain gwyrddion, a gwylogod. Bydd deunydd addysgol ategol hefyd ar lithrfeydd a digwyddiadau i ddod.

Mae’r prosiect hwn yn cael ei gefnogi gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy’r Parc Cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru, a rhoddion gan gwsmeriaid Coastal Cottages. Hoffai Fforwm Arfordir Sir Benfro ddiolch i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Cyfoeth Naturiol Cymru, a Coastal Cottages am eu cefnogaeth.

Dywedodd Emma Taylor o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro “Mae hwn yn gam cadarnhaol lle mae budd economaidd-gymdeithasol a chymunedol hefyd yn cael ei warchod ochr yn ochr ag ecosystemau morol”.

Dywedodd Paul Renfro, Swyddog Cod Morol Fforwm Arfordir Sir Benfro,“ Cafodd partneriaeth Cod Morol Sir Benfro, sydd wedi bodoli ers dros ddegawd, ei sefydlu i ddatblygu arfer gorau ar gyfer morloi, morfilod ac adar y môr. Mae’n galluogi pawb sy’n defnyddio’r môr o gaiacwyr, deifwyr, pysgotwyr a morwyr i osgoi tarfu ar y bywyd gwyllt rhyfeddol rydyn ni’n ffodus i rannu ein moroedd â nhw. Rydym yn gyffrous i dreialu’r dull newydd hwn i helpu i godi ymwybyddiaeth ac addysgu cymaint o bobl â phosibl am yr hyn y gallant ei wneud i sicrhau bod y bywyd gwyllt yno i’w fwynhau am genedlaethau i ddod.”

Fideo byr am y prosiect